Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Olwg yn gweithio i:
· roi’r wybodaeth a’r gefnogaeth y mae ei hangen ar Aelodau i fod yn ‘hyrwyddwyr colli golwg,’ a chodi ymwybyddiaeth ar draws y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y problemau y mae pobl sydd wedi colli’u golwg yn eu hwynebu.
· goruchwylio a chefnogi cynnydd tuag at weithredu Strategaeth Golwg i Gymru, gan gael yr holl aelodau i helpu i hyrwyddo proffil y Strategaeth yn y Llywodraeth a thu hwnt.
· darparu fforwm lle bydd lleisiau a phrofiadau pobl sydd wedi colli’u golwg yn cael eu clywed yn uniongyrchol gan Aelodau’r Cynulliad.
Dyma aelodau’r grŵp:
Sandy Mewies AC, Cadeirydd
Janet Finch-Saunders AC
Eluned Parrott AC
Rhodri Glyn Thomas AC
Alexandra McMillan (tan 4/10/14) / Tess Saunders RNIB Cymru (Ysgrifennydd)
Bu hon yn flwyddyn brysur i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Olwg, ac rydym wedi edrych ar nifer o faterion sy’n effeithio ar bobl yng Nghymru sydd wedi colli’u golwg. Rwy’n falch bod y Grŵp wedi gallu trafod rhai o’r materion hyn gyda Gweinidogion perthnasol yn Llywodraeth Cymru.
Mae’r gynrychiolaeth o’r sector yn wir yn sail i waith ein Grŵp, a hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau hynny sy’n cefnogi ac yn cymryd rhan yn nhrafodaethau cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol.
Edrychaf ymlaen at gael eu cefnogaeth barhaus yn y flwyddyn sydd i ddod.
Sandy Mewies AC
Cyflwynwyd papur ar sut i sicrhau bod Canllawiau a Chynllun Gweithredu'r Ddeddf Teithio Byw (Cymru) 2013 yn gywir ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall gan Andrea Gordon o fudiad Cŵn Tywys Cymru.
· Cytunodd y Grŵp â’r holl bwyntiau a godwyd yn y papur, ac y dylid anfon llythyr ganddo at y Gweinidog, er mwyn codi’r materion hyn gydag ef.
Ann Jones AC
Sandy Mewies AC, Cadeirydd
Val Bailey (Y Coleg Nyrsio Brenhinol)
Andrea Gordon (Cŵn Tywys Cymru)
Ceri Jackson (RNIB Cymru)
Peter Jones (Cŵn Tywys Cymru)
Alexandra McMillan (RNIB Cymru, Ysgrifennydd)
Jonathan Mudd (Cŵn Tywys Cymru)
Judith Parry (Sight Cymru)
Tess Saunders (RNIB Cymru)
Owen Williams (Vision yng Nghymru)
Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Rhoddodd Ceri Jackson (Cadeirydd y Grŵp Gweithredu Strategaeth Golwg i Gymru, Cyfarwyddwr RNIB Cymru) gyflwyniad i lansio Cynllun Gweithredu Strategaeth Golwg i Gymru 2014-2018. Rhoddodd Peter Jones (Cŵn Tywys Cymru) y wybodaeth ddiweddaraf am Ganllawiau’r Ddeddf Teithio Byw (Cymru) 2013, yn dilyn anfon llythyr gan y Grŵp at y Gweinidog.
· Owen Williams (Cyngor Cymru i’r Deillion) i ddosbarthu crynodeb byr ar y gwaith a wneir fel rhan o’r Cynllun Gofal Iechyd y Llygaid i aelodau’r Grŵp.
· Ceri Jackson (RNIB Cymru) i siarad â’r Coleg Nyrsio Brenhinol am rôl nyrsys mewn gofal llygaid.
Sandy Mewies AC, Cadeirydd
Janet Finch-Saunders AC
Eluned Parrott AC
Jocelyn Davies AC
Peter Jones (Cŵn Tywys Cymru)
Catrin Edwards (Sense Cymru)
Ceri Jackson (RNIB Cymru)
Jonathan Mudd (Cŵn Tywys Cymru)
Owen Williams (Cyngor Cymru i’r Deillion)
Lisa Turnbull (Y Coleg Nyrsio Brenhinol)
Tess Saunders (RNIB Cymru, Ysgrifennydd).
Dim
Arlwyo 4 Hydref 2014: £62.50
Cyfanswm £62.50
Darparwyd y Gwasanaeth Arlwyo gan Charlton House catering.cardiffbay @cymru.gov.uk 02920 898077
CYFARFODYDD, A RHAI A OEDD YN CYMRYD RHAN:
Nid oedd dim lobïwyr proffesiynol yn bresennol nac yn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn.
Rhestrir y Grwpiau Gwirfoddol ac Elusennol a oedd yn bresennol ac yn cymryd rhan yng nghyfarfodydd y grŵp mewn mannau eraill.